Willot yn gadael llywodraeth
- Published
Mae AS Canol Caerdydd Jenny Willot wedi ymddiswyddo fel chwip cynorthwyol y llywodraeth er mwyn canolbwyntio ar ei gwaith yn yr etholaeth cyn etholiad cyffredinol y flwyddyn nesa.
Mae Ms Willott yn un o dri AS y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gadael y llywodraeth glymblaid.
Y ddau arall yw Norman Baker a Mark Hunter.
Mae'n golygu y bydd y dirprwy brif weinidog Nick Clegg yn ad-drefnu ei dîm yn y llywodraeth glymblaid.
Dywedodd Mr Clegg: "Rwy'n deall yn llwyr ac yn parthu penderfyniadau Norman, Mark a Jenny i gamu lawr o lywodraeth ac i ganolbwyntio ar eu gwaith yn eu hetholaethau. Mae'r tri wedi bod yn weinidogion gwych gan gyfrannu i lwyddiant y llywodraeth glymblaid.
Yn etholiad cyffredinol 2010 roedd ganddi fwyafrif o 4,576 dros yr ymgeisydd Llafur.