Mesur newydd yn trosglwyddo gormod o bŵer i Fae Caerdydd

adeiladu tai
Image caption Mae gweinidogion wedi dweud eu bod am 'adfywio'r' system gynllunio er mwyn cefnogi twf economaidd.

Mae saith o arweinwyr cynghorau Cymru wedi rhybuddio y bydd mesur blaenllaw yn trosglwyddo gormod o bŵer o gymunedau lleol i Fae Caerdydd.

Maen nhw'n dweud y bydd y Mesur Cynllunio yn golygu y bydd penderfyniadau ynglŷn â materion megis prosiectau tai, yn cael eu cymryd gan weinidogion Llywodraeth Cymru yn hytrach na chynghorau lleol.

Mae rhai yn pryderu y gallai fod yn fwy anodd i bobl ymladd yn erbyn ceisiadau cynllunio dadleuol, gan gynnwys ffermydd gwynt.

Dywedodd y gweinidogion eu bod am i benderfyniadau fod yn seiliedig ar "ymgysylltiad â'r gymuned" ac ar "dystiolaeth leol sy'n berthnasol".

'Cryfhau a moderneiddio'

Cafodd y Mesur ei gyhoeddi yn gynharach ym mis Hydref er mwyn ceisio "cryfhau a moderneiddio" y broses gynllunio er mwyn rhoi hwb i'r economi a darparu "cartrefi, swyddi a seilwaith mae Cymru ei hangen", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Mel Nott, arweinydd Llafur awdurdod lleol y Prif Weinidog Carwyn Jones ym Mhen-y-bont, ymhlith yr arweinwyr sydd wedi arwyddo'r llythyr ar y cyd i'r gweinidogion.

Daw'r gwrthwynebiad ar ôl i arweinydd Llafur Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge, wneud cwyn yr wythnos diwethaf nad yw'r un Mesur yn gwneud llawer i warchod yr iaith Gymraeg.

Roedd y llythyr, a ryddhawyd nos Iau, yn dweud: "Rydym yn bryderus ... am y nifer o ffyrdd mae'r Mesur yn cynnig canoli grym yng Nghaerdydd.

"Rydym yn credu'n gryf y dylai cynghorau gael y rhyddid i osod targedau tai yn seiliedig ar anghenion lleol ac yn annibynnol oddi wrth llywodraeth ganolog."

'Momentwm'

Mae'r llythyr yn ailadrodd galwadau Mr Madge y dylid ystyried effaith ar yr iaith Gymraeg cyn i ddatblygiadau tai fynd yn eu blaen.

Arweinwyr y cyngor a arwyddodd y llythyr at y gweinidogion:

Mel Nott - Pen-y-bont

Jamie Adams - Sir Benfro

Mark Pritchard - Wrecsam

Kevin Madge - Sir Gaerfyrddin

Dilwyn Roberts - Conwy

Ieuan Williams - Ynys Môn

Ellen ap Gwynn - Ceredigion

Mae ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg o'r farn y bydd gweinidogion yn awr yn cael eu gorfodi i feddwl eto.

Meddai Tamsin Davies, o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r momentwm yn bendant y tu ôl i'n hymgyrch, ac erbyn hyn rwyf yn meddwl y bydd yn amhosibl i'r llywodraeth wrthod gwneud newidiadau i'r Mesur - mae gormod o wrthwynebiad.

"Rydym wedi cynnig nifer o opsiynau i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynnwys cymalau'r Mesur, a byddwn yn cyfarfod eto'r wythnos nesaf i drafod ymhellach."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Mesur Cynllunio yn ceisio gwella'r system gynllunio yng Nghymru er budd pawb, waeth pa iaith maent yn ei siarad, mae hyn yn allweddol i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cael eu seilio ar Gynllun Datblygu Lleol cyfredol (CDLl) sydd wedi bod yn destun ymgysylltu â'r gymuned ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth berthnasol yn lleol.

"Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau yn rhai rhesymol, yn gyson ac yn deg ac yn caniatáu i'r iaith Gymraeg gael ei hystyried ochr yn ochr â materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eraill i gyflawni'r canlyniad cyffredinol gorau i gymunedau ledled Cymru."

Straeon perthnasol