Carchar Wrecsam: Cymeradwyo cynlluniau
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau manwl ar gyfer carchar gwerth £212 miliwn yn Wrecsam wedi cael eu cymeradwyo.
Neithiwr, pleidleisiodd aelodau'r pwyllgor cynllunio sirol yn unfrydol i gefnogi'r datblygiad ar safle hen ffatri teiars Firestone ar ystâd ddiwydiannol Wrecsam.
Dylai'r carchar, fydd yn gallu dal mwy na 2000 o garcharorion, agor yn 2017.
Cafodd caniatâd cynllunio ei gytuno gan gynghorwyr yn gynharach eleni.
Ond pan gafodd cynlluniau manwl eu rhoi gerbron y pwyllgor fis diwethaf, galwodd cynghorwyr am fwy o wybodaeth am agweddau penodol o'r cynllun.
Cymeradwyodd y pwyllgor y manylion neithiwr ar ôl derbyn gwybodaeth newydd gan y datblygwyr, Lend Lease.
Straeon perthnasol
- 30 Hydref 2014
- 6 Hydref 2014
- 1 Medi 2014