Gwrthdrawiad: A470 ar agor eto

  • Cyhoeddwyd

Mae rhan o'r A470 ar agor eto, wedi iddi fod ynghau i'r ddau gyfeiriad ym Mhowys yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori oedd yn tynnu trelar, car Ford Focus a fan oedd hefyd yn tynnu trelar.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Caersws a Llandinam ychydig wedi 11:15 fore Mawrth.

Fe gafodd yr ambiwlans awyr ei alw.

Fe gafodd dau o blant eu cludo i Ysbyty Plant Birmingham gan hofrennydd, ac fe aeth ambiwlans ag un oedolyn i Ysbyty Brenhinol Amwythig.

Does dim rhagor o wybodaeth am gyflwr yr rhai gafodd eu hanafu hyd yn hyn.