Dirwy carthffosiaeth i Ddŵr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dwr o dapFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Dŵr Cymru ddirwy o £35,000

Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £35,000, a gorchymyn i dalu costau o £3,363 ar ôl i bibellau carthffosiaeth ollwng ym Mae Cinmel, ger Y Rhyl.

Ym mis Chwefror a Gorffennaf, llifodd 25 miliwn litr o garthion i'r môr o ganlyniad i rwygiadau ym mhibellau Dŵr Cymru.

Dywedodd Dafydd Roberts, oedd yn erlyn ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, bod y cwmni wedi methu ag ymateb yn dilyn achos tebyg yn 2010.

Dywedodd y bargyfreithiwr Richard Kimblin ar ran Dŵr Cymru, fod y cwmni wedi gwario £4.5 miliwn ar newid pibellau.

Ychwanegodd fod rheolwyr wedi penderfynu dechrau ar y gwaith rhai misoedd yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.

Dywedodd Ynadon Llandudno i'r cwmni fod yn "esgeulus" ac iddynt "fethu a gweithredu" wedi iddynt ddod yn ymwybodol o broblemau yn 2010.