Beth fydd effaith ehangach cau Murco ar Sir Benfro?
- Cyhoeddwyd

Am gyfnod o bedair blynedd bu Llywodraeth Cymru yn trafod gyda pherchnogion Murco yn Aberdaugleddau er mwyn ceisio cadw purfa olew ar y safle, oherwydd ei bwysigrwydd i economi'r gorllewin.
Ond mae'n debyg bod yr ymdrech wedi bod yn ofer - a bydd hynny'n golygu colled o 400 a mwy o swyddi yn ne Sir Benfro.
Yn ogystal â 400 o weithwyr mae Murco yn cyflogi 200 o weithwyr contract.
Ond mae'r dylanwad yn llawer mwy yn ôl Cymdeithas Diwydiant Petrolewm y DU, sy'n amcangyfrif bod y safle yn cefnogi 4,200 o swyddi yn yr ardal gyfagos, gan gyfrannu £30 miliwn y flwyddyn i'r economi leol.
Beth fydd yr effaith ehangach ar ardal sydd mor ddibynnol ar y safle?
'Dyfodol yn ddu'
Yn ôl yr economegydd o Brifysgol De Cymru, Martin Rhisiart, er bod y diwydiant ynni yn parhau yn bwysig yn yr ardal, dyw'r gobeithion o sicrhau swyddi newydd ddim yn uchel.
"Dros y tymor byr mae'r dyfodol yn edrych yn ddu. Mae'r diwydiant wedi bod yn edwino a chrebachu dros gyfnod o 10 i 15 mlynedd," meddai.
"Y tu allan i'r ardal ynni mae economi Sir Benfro yn debyg i economi gweddill y gorllewin.
"Does yna ddim cwmnïau neu safleoedd cynhyrchu sy'n debygol o gynnig cyflogaeth i 10 o weithwyr ar y tro.
"Wrth sgwrs mae rhai sgiliau yn gallu cael eu trosglwyddo. Ac mae safle LNG yn yr ardal. Ond mae'n dibynnu faint yw'r galw am sgiliau peirianyddol mecanyddol.
"Mae'r diwydiant ynni yn y sir yn sicr o gynnig cyflogaeth am o leiaf cenhedlaeth arall ac mae ynni dal yn bwysig, yn rhan o strategaeth yr ardal.
"Ond o ran swyddi Murco yn y tymor byr mae'n anodd gweld o le bydd y swyddi yn dod."
'Cyfystyr a cholli miloedd o swyddi'
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gaddo y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau effaith y newyddion ar bobl yr ardal.
Dywedodd y cynghorydd Huw George, aelod o gabinet Sir Benfro wrth raglen y Post Cynta: "Mae heddiw yn newyddion drwg nid yn unig i'r 400 o weithwyr ond i'r sir gyfan."
"Mae'r trafodaethau wedi bod yn digwydd ar y lefelau uchaf, gyda llywodraethau yn cydweithio yn galed i geisio diogelu'r safle.
"Mewn ardal fel Caerdydd byddai hyn yn gyfystyr a cholli miloedd o swyddi."
Bu Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda rheolwyr Murco yn y gobaith o sicrhau prynwr i'r safle a diogelu'r swyddi.
Dywedodd Edwina Hart Gweinidog Economi Cymru y bydd eu cefnogaeth i'r gweithlu yn parhau.
"Bydd gweithwyr sy'n ceisio am ailhyfforddant neu gyflogaeth yn derbyn cefnogaeth.
"Byddwn hefyd yn rhoi cymorth i gwmnïau cadwyn gyflenwi Murco er mwyn creu ac archwilio marchnadoedd newydd trwy raglen Busnes Cymru."
'Arolygon ofnadwy'
Yn ôl Carol Bell, sy'n arbenigo ar y diwydiant olew, mae'n bosib nad oedd y banciau yn fodlon benthyg yr arian angenrheidiol.
"Dwi ddim yn gwybod beth sy'n gyfrifol am i'r ddêl gwympo trwodd," meddai.
"Falle mai diffyg arian yw e, falle bod y banciau ddim yn fodlon cefnogi."
Dywedodd bod dwy burfa newydd yn dod i'r farchnad y flwyddyn nesa yn y Dwyrain Canol, a bod "rhywbeth fel 10% yn ormod o gapasiti yn y system yn barod".
"Felly mae'r arolygon yn ofanadwy o ddrwg a byddai'n anodd i fanciau roi arian ar y telerau yna.
"Mae'n edrych yn debyg i mi bod nhw wedi methu a dod â'r arian ynghyd."
Straeon perthnasol
- 5 Tachwedd 2014
- 11 Awst 2014
- 31 Gorffennaf 2014
- 3 Ebrill 2014