Agor Cae Coffa Cymru yng Nghaerdydd
- Published
Roedd dwy funud o ddistawrwydd yng nghanol prysurdeb Caerdydd fore Mercher, wrth i Gae Coffa Cymru agor.
Mae'r safle yn rhoi teyrnged i'r miloedd o filwyr sydd wedi marw mewn rhyfeloedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r safle yn un o nifer sydd wedi eu sefydlu ar draws y DU wrth agosáu at Sul y Cofio.
Roedd rhai o wleidyddion Cymru yn y cae wrth i fiwglwyr y Lleng Prydeinig chwarae'r Caniad Olaf.
'Mawr yw ein dyled'
Fe wnaeth y prif weinidog, Carwyn Jones, gymryd rhan yn y seremoni drwy roi teyrnged i filwr gollodd ei fywyd.
Dywedodd: "Rwyf yn falch o fynychu'r digwyddiad hwn i anrhydeddu'r rhai sydd wedi marw mewn gwrthdrawiad.
"Mawr yw ein dyled i'n Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr. Eleni, wrth inni nodi'r can mlynedd sydd wedi mynd heibio ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, mae cyfle pellach inni gofio'r rhai a fu'n rhan o'r Rhyfel ac effaith y gwrthdrawiad ar ddatblygiad y Gymru gyfoes."
Dywedodd Cadeirydd y Lleng Prydeinig Frenhinol, John Crisford, bod y meysydd coffa yn dangos "dyfnder a nerth teimladau'r cyhoedd" tuag at aelodau'r lluoedd arfog.
"Mae nifer mawr o deyrngedau i'w gweld yn y Maes hwn. Mae rhai ohonynt yn coffáu milwyr ymadawedig y Rhyfel Byd Cyntaf, ac eraill yn coffáu aberthau mwy diweddar.
"Maent oll yn anrhydeddu cof yr ymadawedig ac yn dangos parch y cyhoedd tuag at aelodau o'r Lluoedd Arfog Prydeinig sydd wedi gwneud yr aberth eithaf er mwyn amddiffyn ein gwlad."