'Dim bwriad' i sefydlu cronfa cyffuriau canser
- Cyhoeddwyd

Does "dim bwriad" gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa cyffuriau canser, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
Yn y Senedd heriodd y Ceidwadwyr Mr Drakeford i ymateb i ddeiseb gyda bron i 100,000 o lofnodion arni, yn galw am greu cronfa.
Dywedodd y Ceidwadwyr bod cleifion yn wynebu "anghyfiawnder amlwg".
Yn hytrach na chyhoeddi cronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd newid i'r system o roi cyffuriau sydd ddim ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd.
Mwy o gysondeb
I gael cyffuriau sydd ddim ar gael ar y GIG rhaid i gleifion wneud cais am gyllid gan fyrddau iechyd drwy'r system Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.
Yn dilyn ymgynghoriad am y system mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau fydd yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i roi cyffuriau newydd.
Mae'r newidiadau hefyd i fod i sicrhau mwy o gysondeb i'r system sy'n cael ei gweithredu drwy fyrddau iechyd unigol.
£280m
Dywedodd Mr Drakeford nad oedd angen cronfa cyffuriau canser am fod y system bresennol yn "deg i bob claf, yn cael ei gyrru gan glinigwyr, yn rhoi canlyniadau da am gost effeithiol - a dyna yw'r ffordd iawn i'w gwneud hi".
Fe wnaeth gweinidogion yn Lloegr sefydlu cronfa cyffuriau canser yn 2010 sy'n werth £280m y flwyddyn.
Wrth ddal y ddeiseb gyda 98,000 o lofnodion arni, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, y dylai gweinidogion wrando ar y galwadau am gronfa Gymreig.
Straeon perthnasol
- 5 Tachwedd 2014