Angladd Alvin Stardust yn Abertawe
- Published
Mae angladd un o sêr pop mwyaf yr 1970au, Alvin Stardust, yn cael ei gynnal yn Abertawe heddiw.
Buodd farw o ganser y prostad fis diwethaf, yn 72 oed.
Roedd Stardust yn briod i Julie Paton, ac roedd y ddau yn byw yn Abertawe pan nad oedd yn teithio gyda'i fand.
Gofynnodd merch Alvin Stardust, Sophie, i griw o feicwyr Harley Davisdon i hebrwng hers ei thad o Eglwys Sant Thomas i'r crematoriwm yn Abertawe.
Bydd beicwyr Black Mountains Chapter of Wales, sydd a 200 o aelodau, yn cael eu harwain gan John Watson, a dywedodd: "Mae'r mwyafrif o'r criw yn eu 50au hwyr i mewn i'w 70au, sy'n golygu ein bod ni'n cofio ei gerddoriaeth.
"Dyma ein ffordd ni o dalu teyrnged. Dwi ddim yn siŵr os oedd e'n ffan, ond mae aelod o'r teulu berchen ar feic Harley Davidson.
"Mae'r mwyafrif ohonom ni'n byw yn ardal Abertawe ac mi fydd tua 30 ohonom ni yno."
Mi fydd côr Gwalia hefyd yno'n canu un o'i hoff emynau, Calon Lân.
'Pam Cymru?'
Mae'r Parchedig Steven Bunting, ficer Eglwys St Thomas yn teimlo'n "freintiedig bod y gwasanaeth yn cael ei chynnal" yn Abertawe er mwyn talu teyrnged "i ddyn arbennig."
Meddai: "Bydd un o ffrindiau agosaf Alvin Stardust yn talu teyrnged 'Pam Cymru?' ar ddechrau'r gwasanaeth gan adrodd ar rôl y canwr a'i wraig yn y gymuned yma. Buont briodi yma 22 o flynyddoedd yn ôl hefyd."
Mae Hazel Wittaker wedi teithio o Crewe i'r angladd heddiw am ei bod "yn ffan mawr ohono" a dywedodd ei fod yn "ddyn ffantastig."