Marwolaeth bardd: llysfab yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae Timothy Jackson, 48 oed o Sheffield, wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo ar gyhuddiad o lofruddio ei lysfam, y bardd Anne Jackson.
Cafwyd hyd i'w chorff yn ei chartref yn ardal Brynbuga ddydd Sadwrn, 1 Tachwedd.
Roedd hi a'i gŵr wedi dathlu pen-blwydd priodas y diwrnod cyn iddi farw.
Ni ofynnwyd i Mr Jackson gyflwyno ple a bydd yn parhau yn y ddalfa.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan 10 Rhagfyr.
Roedd hi'n fardd oedd yn cyhoeddi ei gwaith dan yr enw Anne Cluysenaar.