Cynghorau'n uno i alw am fwy o ddatganoli
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw am ddatganoli cymaint o bwerau â phosib i'r lefel leol.
Rhybuddiodd cymdeithasau llywodraeth leol y pedair gwlad fod ffydd y cyhoedd yn yr "hen ddulliau o reoli'n ganolog wedi ei chwalu'n llwyr".
Maen nhw wedi ysgrifennu at William Hague, cadeirydd Pwyllgor y Cabinet sy'n ystyried pwerau datganoledig, a galw am gyfarfod brys er mwyn dod i gytundeb ar ddatganoli.
'Cam pendant'
Mae'r llythyr yn ei annog "i gymryd cam pendant at system newydd o lywodraethu" fyddai'n symud "pŵer i lefel leol" yn y pedair gwlad.
Dywedodd y llythyr fod "gormod o benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau lleol wedi eu canoli yn San Steffan, Holyrood, Bae Caerdydd a Stormont."
Mae'r grŵp, sy'n cynnwys y Gymdeithas Lywodraeth Leol, Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon, eisiau newidiadau fyddai'n sicrhau bod pŵer yn cael ei symud i'r lefel sy' "agosaf at y bobl".
Hefyd maen nhw wedi galw am fwy o annibyniaeth ariannol ynghyd â phwerau a chyfrifoldebau pendant.
'Anghynaladwy'
Dywedodd y llythyr "ei bod hi'n debygol y bydd unrhyw setliad newydd sy'n anwybyddu'r dadeni mewn hunaniaeth leol yn y DU yn anghynaladwy.
"Mae'r drafodaeth wedi'r refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban wedi dangos bod ffydd y cyhoedd yn yr hen ddulliau o reoli'n ganolog wedi ei chwalu'n llwyr.
"Mae pleidiau cenedlaethol a chymunedau lleol wedi dangos awydd am adfywio systemau democrataidd lleol."
Straeon perthnasol
- 14 Hydref 2014
- 13 Hydref 2014
- 24 Medi 2014
- 23 Medi 2014
- 23 Medi 2014
- 19 Medi 2014
- 14 Medi 2014