Damwain A470: Dynes wedi marw
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 ger Gwesty Abaty Maenan, Dyffryn Conwy
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddynes 73 oed o Wynedd farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nyffryn Conwy ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn hanner dydd, ddydd Iau, ar yr A470 ger Gwesty Abaty Maenan, ble bu gwrthdrawiad rhwng VW Golf arian a Vauxhall Astra glas.
Roedd y ddynes yn teithio yn y Vauxhall Astra a bu farw yn yr ysbyty.
Mae'r dyn oedd yn gyrru'r VW Golf yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd trydydd person ei gludo i'r ysbyty, hefyd.
Dywedodd yr Arolygydd Martin Best: "Dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101."