Llifogydd yn y de-orllewin
- Published
Mae sawl ardal o Sir Benfro a Cheredigion wedi eu heffeithio gan lifogydd yn dilyn glaw trwm nos Iau a bore Gwener.
Mae rhybuddion llifogydd mewn grym ar gyfer Teifi Isaf, Cleddau Wen, gogledd, gorllewin a de Sir Benfro.
Mae tua 20 o gartrefi yn Aberteifi wedi dioddef llifogydd, ac mae gweithwyr y cyngor, ynghyd â'r gwasanaeth tân, yn gweithio i glirio'r dŵr ar draws y sir.
Mae'r cyngor yn dweud mai ardal Llandudoch yw un o'r rhai sydd wedi'i heffeithio waethaf.
Mae pump criw tân ac achub yn delio â 'llifogydd sylweddol' mewn tai yn ardal y Santes Fair, yn Aberteifi, mae'r llifogydd hefyd yn effeithio ar yr ysgol uwchradd a gwesty.
Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer ardaloedd: Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent, Powys, Torfaen, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe, Penybont, Caerdydd a Bro Morgannwg hyd nes 14:00 ddydd Gwener.
Mae lluniau radar yn dangos fod y glaw yn debygol o symud i'r dwyrain dros yr oriau nesaf i gyfeiriad Abertawe a Chastell-nedd.