AS yn cynnig cwrdd â gweithwyr Murco
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru yn bwriadau cyfarfod â gweithwyr sy'n cael eu taro yn sgil cau purfa olew Murco yn Sir Benfro.
Mae'r Aelod Seneddol Stephen Crabb yn cynrychioli ardal Y Preseli yn San Steffan ac mae o'n gwahodd gweithwyr Murco a'u teuluoedd i'w gyfarfod mewn cymorthfa arbennig yn Aberdaugleddau.
Dim ond 60 o'r 400 o swyddi fydd yn cael eu harbed ar ôl i ymgais i ddiogelu'r safle fethu.
Bydd tasglu yn cyfarfod wythnos nesaf gyda'r bwriad o geisio denu mwy o swyddi i'r ardal.
Ceisio denu mwy o swyddi
Gweinidog yr Economi Edwina Hart fydd yn arwain a daw hyn ar ôl i Mr Crabb ddweud y byddai llywodraethau Prydain a Chymru yn gwneud eu gorau i "leihau'r effaith sylweddol y caiff cau'r burfa ar ein gwlad".
Dywedodd y Cynghorydd lleol Huw George y bydd y tasglu yn weithredol erbyn wythnos nesaf a bydd y Ganolfan Waith Estynedig yn cynnal ffeiriau gwatih.
Ddydd Iau, galwodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans am nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd i helpu'r gweithwyr sty'n cael eu heffeithio.
Mae'r burfa olew wedi bo ar werth am bedair blynedd, heb lwyddiant yn dod o hyd i brynwr.
Roedd cwmni Klesch o'r Swistir wedi dangos diddordeb ond fe syrthiodd pethau drwodd nos Fawrth.
Yn ogystal â gweithlu eu hunain, mae'r burfa olew yn cyflogi tua 200 o gontractwyr ac yn ôl pob tebyg yn cefnogi tua 4,200 o swydd pellach ar draws de orllewin Cymu.