Angen hawl i etholwyr gael gwared ar ACau

Kirsty Williams

Dylai etholwyr gael yr hawl i gael gwared ar eu haelod cynulliad lleol petai nhw'n ymddwyn yn amhriodol, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams.

Mae Ms Williams am roi'r hawl i etholwyr benderfynu a ydyn nhw am gael gwared ar ACau rhwng etholiadau.

Mae cynllun tebyg wedi ei gynnig ar gyfer ASau yn San Steffan, ond mae rhai yn dweud bod y mesur yna yn rhy wan.

Yn ôl Ms Williams, byddai'r cynllun yn galluogi i etholwyr sicrhau bod eu ACau yn atebol.

Mae hi hefyd wedi awgrymu bod angen cynyddu nifer yr aelodau cynulliad o'r 60 presennol i 80 neu 90, ond mynnodd bod modd gweithredu ei syniadau heb ychwanegu at gostau gweinyddol y sefydliad.

Isetholiad

I gynnal isetholiad, byddai angen i 20% o etholwyr arwyddo deiseb yn galw am hynny, dan gynllun y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yna byddai refferendwm yn gofyn a ddylai cynnal isetholiad, a petai hwnnw yn pasio yna byddai'r isetholiad yn mynd yn ei flaen.

Mewn araith ym Mae Caerdydd nos Lun, dywedodd Ms Williams ei bod hi'n croesawu'r ddadl gan ddweud nad yw wedi bod ar yr agenda yng Nghymru o gwbl.

Image caption Mae cynllun tebyg wedi ei gynnig yn San Steffan, fyddai'n gweld isetholiad os yw AS yn camymddwyn

Dywedodd: "Rydw i am ei roi ar yr agenda a dweud yn glir fy mod i'n credu y dylai pobl Cymru gael yr hawl i alw Aelodau Cynulliad yn ôl.

"Buasai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi'r pwerau er mwyn sicrhau bod gwleidyddion yn wirioneddol atebol.

Dywedodd nad oedd hi'n deg y gallai ACau "wneud yr hyn a fynnent" yn ystod y pum mlynedd rhwng etholiadau Cynulliad.

'Och a gwae'

"Ar hyn o bryd, gall ACau ond golli eu sedd rhwng etholiadau os ydyn nhw'n cael eu hanfon i'r carchar am fwy na 12 mis. Mae hynny'n drothwy uchel, a' nghred i yw bod angen i hynny newid."

Roedd hi'n anochel y byddai'r 'sefydliad' yn darogan "och a gwae", meddai, ond fe fyddai'r newid yn rhoi mwy o rym yn nwylo'r bobl.

Ychwanegodd Ms Williams: "Dywedodd Gladstone taw ystyr rhyddfrydiaeth oedd ymddiried mewn pobl wedi'i dymheru gan bwyll, ac mae'n bryd i Gymru ymddiried yn ei phobl."

Yn ôl cynllun Llywodraeth Prydain ar gyfer ASau, byddai isetholiad San Steffan pe bai 10% yn arwyddo deiseb wedi i'r aelod lleol gael dedfryd o 12 mis o garchar, neu wedi'i wahardd o'r Senedd am fwy 'na 21 diwrnod.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod y trothwy yn rhy uchel ac anaml iawn fyddai aelodau yn cael eu galw yn ôl.