Ymweliad brenhinol: Dathlu pen-blwydd purfa
- Published
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld â phurfa olew Valero yn Sir Benfro wrth i'r cwmni ddathlu 50 mlynedd ers agor.
Bu'n wythnos anodd i'r diwydiant olew gyda dyfodol 400 o swyddi yn y fantol yn sgil methiant Murco -purfa lai na Valero - i gyrraedd cytundeb.
Mae'n "fraint mawr" bod Dug a Duges Caergrawnt yn ymweld â Valero, yn ôl y cwmni.
Agorwyd y burfa, sy'n cyflogi 1,200 o bobl heddiw, gan y Fam Frenhines yn 1964.
Mae pibellau olew Valero yn ymestyn hyd at Fanceinion ac maent yn cynhyrchu hyd at 270,000 casgen olew yn ddyddiol.
Mae Valero'n cyflenwi 10% o danwydd i'r DU.
Bu Dug a Duges Caergrawnt yn cwrdd gweithwyr a phrentisiaid y cwmni yn ogystal ag ymweld â chyrff eraill o gwmpas ardal Gorllewin Cymru.
Dywedodd is-lywydd Valero, Ed Tomp bod yr ymweliad yn cydnabod "y rôl mae'r cwmni'n parhau i'w chwarae mewn cefnogi economi a chymunedau Dwyrain Cymru."
"Mae'r gymuned gyfan yn edrych ymlaen at groesawu Dug a Duges Caergrawnt i'r burfa, sy'n gyfle gwych i bobl ym Mhenfro ddathlu."
Yn dilyn yr ymweliad, bu'r cwpl yn gwylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.