Tân Caernarfon: Ffordd ynghau
- Published
image copyrightMedi Wilkinson
Fe gafodd un o lonydd prysuraf Caernarfon ei chau fore Sadwrn oherwydd tân mewn fflat.
Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r B4419 Ffordd Bangor toc wedi 07.00 y bore 'ma, gan fod tân mewn fflat ail-lawr ar y stryd.
Bu tair injan dân yno.
Chafodd neb eu hanafu, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.