James Hook yn cael ei alw i garfan Cymru
- Published
image copyrightGetty Images
Mae James Hook wedi cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer gemau'r hydref wedi i Dan Biggar ddioddef anaf.
Fe anafodd Biggar ei afl yng ngêm Cymru yn erbyn Awstralia.
Doedd Hook - sydd wedi ennill 76 chap - ddim yn rhan o garfan wreiddiol Warren Gatland i herio'r Wallabies, Fiji, Seland Newydd a De Affrica.
Mae pryder na fydd Leigh Halfpenny ar gael chwaith wedi iddo ddioddef cyfergyd yn ystod y gêm ddydd Sadwrn.
Mae Hook ymysg grŵp o chwaraewyr na fydd ar gael i chwarae yn erbyn De Affrica ar 29 Tachwedd - gan nad yw clybiau'r Uwchgynghrair yn Lloegr yn rhyddhau eu haelodau y tu allan i ffenstr gemau rhyngwladol yr IRB.
Mae ffitrwydd Rhys Webb yn cael ei fonitro, hefyd - ond mae'n debyg nad yw ei anaf yn ddifrifol.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Tachwedd 2014