Biggar yn ôl cyn gêm Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Dan Biggar a Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Rhys Priestland i'r maes yn lle Dan Biggar ddydd Sadwrn

Fe allai Dan Biggar ddychwelyd i garfan Cymru mewn pryd i'r ddwy gêm olaf yng nghyfres yr hydref yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.

Bu'n rhaid i faswr i Gweilch adael y cae yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn gydag anaf i gesail ei forddwyd, ac fe gafodd James Hook ei alw i'r garfan i gymryd ei le.

Ond mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru Rob Howley ei fod yn disgwyl y byddai Biggar yn ôl mewn pythefnos.

Dywedodd hefyd bod Jonathan Davies, Scott Williams a Dan Baker wedi gwella o anafiadau.

Dywedodd Howley: "Mae cystadleuaeth am lefydd yn y tîm yn allweddol.

"Mae'n braf iawn cael y tri yn ôl {Davies, Williams a Baker}, ac mae'n braf gorfod gwneud penderfyniadau am safleoedd gwahanol.

Un arall adawodd y maes yn y golled yn erbyn Awstralia oedd Leigh Halfpenny gyda chyfergyd ac mae'n debyg y bydd yn cael ei orffwys yn erbyn Fiji, ond mae Howley'n disgwyl y bydd e hefyd wedi gwella ar gyfer y ddwy gêm arall.