Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr: Nodi Dydd y Cadoediad

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Bu seremonïau yn cynnwys dwy funud o dawelwch mewn trefi a phentrefi ledled Cymru.

Mae cyfres o seremonïau a chyfnodau o ddwy funud o dawelwch wedi eu cynnal ledled Cymru ddydd Mawrth i nodi Dydd y Cadoediad.

Mae eleni hefyd yn nodi canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr.

Yn y Senedd yng Nghaerdydd bu'r Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinwyr y pleidiau yn arwain dau funud o dawelwch i gofio aberth eithaf milwyr o Gymru.

Image caption Aelodau Cynulliad a staff y cynulliad yn cofnodi dwy funud o dawelwch

Fe wnaeth y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, arwain y distawrwydd yn dilyn seinio'r Caniad Olaf gan y biwglwr Claire Bourne, o Fand Gwirfoddol Llu Awyr Brenhinol Sain Tathan.

"Rhoddodd mwy na 40,000 o filwyr o Gymru eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda miloedd mwy yn cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar draws y byd a thrwy gydol hanes," meddai.

"Mae gan lawer ohonom gysylltiad personol â'r dynion dewr a wnaeth yr aberth eithaf ar feysydd y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Collodd fy hen ewythr, John William Peacey, ei fywyd yn ystod y rhyfel hwnnw - un o'r miliynau o ddynion a gollodd eu bywydau'n ifanc."

Image caption Bu'r Cynulliad yn cofio'r cadoediad gyda dau funud o dawelwch am 11:00

Seremoni newydd

Roedd seremonïau tebyg yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Am y tro cyntaf roedd 'na seremoni ym mhentref Fochriw, ger Caerffili.

Dywedodd y cynghorydd Alan Higgs fod 17 o ddynion y pentref wedi colli eu bywydau yn y Rhyfel Mawr.

"Fis medi'r llynedd fe wnaeth pobl ofyn i mi drefnu cofeb iddynt a hefyd i 108 o lowyr wnaeth golli eu bywydau yn yr un cyfnod.

"Yna rhyw dair wythnos yn ôl wnaeth rhywun ofyn i mi drefnu rhywbeth ar gyfer Dydd y Cofio."

Roedd plant ysgol gynradd leol a Maer Caerffili yn rhan o'r seremoni ger y gofeb newydd.

Image caption Am 11:00 yn Aberystwyth ac mewn trefi a phentrefi ledled Cymru cafodd dwy funud o dawelwch yn cael ei gynnal i gofio am rai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd

Y gogledd

Yn y gogledd, roedd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Ysbyty Maelor, Wrecsam i ailgysegru cofeb i Dr Thomas William Jones, cyn swyddog Meddygol Wrecsam a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Mawr yn Ffrainc.

Roedd y gofeb, yn wreiddiol, yn hen gapel yr ysbyty - adeilad sydd wedi cael ei ddefnyddio i ddibenion eraill ers 1994.

Ond wrth gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wnaeth porthorion yr ysbyty awgrymu y dylid adfer y gofeb a'i symud i gapel newydd yr Ysbyty.

Ym mhentre' Mwynglawdd, ger Bwlchgwyn, yn ardal Wrecsam, cafodd cofeb newydd ei dadorchuddio i gofio am y rhai a gollwyd yn y ddau ryfel byd.

Roedd plant yr ysgol leol yn bresennol wrth i'r gofeb gael ei chysegru.

Er bod rhai o enwau'r tua 20 o filwyr wedi eu nodi yn yr eglwys leol, doedd dim cofeb yn y pentre' tan eleni.

Tri brawd

Yn Llandudoch ger Aberteifi cafodd cofeb newydd ei dadorchuddio a hynny bron hanner can mlynedd ar ôl i'r gofeb wreiddiol gael ei chwalu ar ôl cael ei tharo gan lori.

Fe wnaeth pobl leol godi dros £7,000 i dalu am y gofeb, ac fe wnaeth y Loteri gyfrannu £10,000 at y gwaith.

Mae enwau 80 o ddynion lleol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd wedi eu rhestru ar y gofeb.

Ymhlith y rhain mewn enwau tri brawd a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Bu farw David Williams ym Mesopotamia (Irac) yn 1917, cafodd Benjamin Williams ei ladd yn Ypres yr un flwyddyn a bu farw Jonny Williams pan suddodd ei long masnach, Baykerran, yn 1918.

Image caption Cafodd cofeb newydd ei dadorchuddio yn Llandudoch, ger Aberteifi, a hynny ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei chwalu gan lori yn 1966.
Image caption Y cofio yn Aberystwyth fore Mawrth