Mubarik Elmi, 11 oed, wedi'i ddarganfod yn ddiogel
- Cyhoeddwyd

Nid yw'r bachgen wedi cael ei weld ers brynhawn Llun.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i'r bachgen 11 oed o Gaerdydd oedd ar goll ers nos Lun.
Doedd Mubarik Elmi ddim wedi dod adre' o'r ysgol ddydd Llun.
Ond cyhoeddodd yr heddlu ei fod wedi dod i'r fei yn fyw ac yn iach fore dydd Mawrth.
Roedd plismyn wedi bod yn ymchwilio'n "eang" ar draws y ddinas mewn ymgais i ddod o hyd iddo.