Cynllun i gladdu peilonau dan ddaear ar gost o £500m

peilonau
Image caption Daw'r penderfyniad i gladdu'r ceblau wedi i adroddiad ymgynghorydd adnabod rhai o'r ardaloedd gyda'r peilonau 'hyllaf' yn y DU

Bydd ceblau peilonau trydan yn diflannu o rai o ardaloedd harddaf Cymru fel rhan o benderfyniad y Grid Cenedlaethol i gladdu'r ceblau o dan ddaear.

Er bydd y gwaith yn costio mwy, y bwriad yw lleihau'r effaith weledol.

Mae grwpiau cefn gwald wedi croesawu'r newyddion, ond wedi pwysleisio y dylai pob prosiect ynni newydd ystyried yr effaith ar y tirwedd o'r cychwyn.

Nawr mae'r Grid Cenedlaethol wedi clustnodi £500 miliwn, sydd wedi'i gymeradwyo gan reoleiddiwr y diwydiant Ofgem tan 2021, i gladdu neu guddio'r ceblau a'u dargyfeirio oddi wrth ardaloedd o harddwch.

Yn ôl y cwmni, y prif reswm dros y gost uchel yw bod angen dod i gytundeb gyda thirfeddianwyr a thyllu ffosydd hyd at 20m o hyd mewn rhai mannau.

Rhestr fer

Image caption Mae Eryri yn un o'r ardaloedd sy'n cael ei ystyried ar gyfer y cynllun.

Mae disgwyl i'r cynllun wyth mlynedd gostio 22 ceiniog i bob cartref ar gyfartaledd.

Mae rhestr fer wedi'i chyhoeddi o 12 ardal trwy'r DU lle mae peilonau yn amharu fwyaf ar yr olygfa. Mae'r rhestr yn cynnwys Eryri, Bannau Brycheiniog, Y Fforest Newydd a'r Peak District.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol gan y Grid Cenedlaethol yn cynnwys cyllideb o £1.1 biliwn ar gyfer y gwaith, ond cwtogodd Ofgem y swm i £500 miliwn.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Caerwyn Roberts wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth ei fod yn "croesawu cynlluniau'r Grid Cenedlaethol i gael gwared ar y peilonau mewn ardaloedd o harddwch yng Nghymru a Lloegr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.