IS: Yr effaith ar Gymry
- Cyhoeddwyd

Mae rhaglen materion cyfoes Radio Cymru yr wythnos yma yn clywed sut mae'r ffaith fod hyd at 500 o bobol o Brydain wedi teithio i Syria er mwyn ymladd fel jihadwyr yn effeithio ar fywydau Mwslemiaid yng Nghymru.
Gydag adroddiadau am fudiadau eithafol fel y mudiad sy'n galw ei hun yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn herwgipio a thorri pennau gwystlon, mae rhai Mwslemiaid yn ofni bod pobol yn y gymuned ehangach yn credu mai eithafwyr ydynt hwythau hefyd.
Fe ddaeth IS i'r amlwg yng Nghymru yn gynharach eleni ar ôl i dri o ddynion ifanc o Gaerdydd deithio i Syria i ymladd gyda nhw fel jihadwyr, a hynny heb yn wybod i'w rheini.
Mae Sian Messmah, gwraig Fwslemaidd sydd yn fam i dri o blant yn cydymdeimlo'n fawr gyda theuluoedd y rhai sydd wedi mynd yno. Ond wrth i'r llywodraeth geisio gwahardd pobl sydd wedi mynd i ymladd dramor rhag dod yn ôl i Brydain, mae hi'n credu bod jihadwyr ifanc yn cael eu beirniadu'n rhy llym.
"Mae'r rhai ifanc 'ma sy'n mynd allan yna, yn gwneud yn union be' wnaeth pobol pan aethon nhw i gefnogi'r Sbaenwyr yn ystod y rhyfel, a doedd neb yn galw'r rheiny yn unrhyw beth ond pobol oedd yn gwneud rhywbeth yn erbyn peth oedden nhw'n teimlo oedd ddim yn iawn," meddai.
'Crefydd o gariad'
Mae Amira El Krouf o ardal Bae Colwyn, yn ferch i Imam - arweinydd Mwslemaidd sy'n cyfateb i weinidog mewn capel Cristnogol.
Mae Amira yn dweud mai "crefydd o gariad, elusen a charedigrwydd ydi Islam.
Ond mae agweddau carfan fach o eithafwyr wedi dod yn flaenllaw" - ac yn ei barn hi, hynny yn bennaf sy'n cael ei ddangos ar y cyfryngau.
Tra bod datblygiad IS wedi ei wreiddio yn yr anhrefn yn Syria yn sgil y rhyfel cartref yno, ac yn y gwagle gwleidyddol mewn rhannau o Iraq ers disodli Saddam Hussein, mae'r mudiad wedi llwyddo i ddenu nifer o ymladdwyr o'r gorllewin.
Defnydd o'r wê
Mae IS hefyd yn gwneud defnydd soffistigedig o'r we i ddenu dilynwyr, ac yn ôl Geraint Whittaker, myfyriwr ymchwil sy'n astudio cymunedau Mwslemaidd yng Nghymru, mae'n ymddangos mai pobl nad ydyn nhw'n teimlo'n gartrefol o fewn eu cymunedau eu hunain sydd fwyaf tebygol o ymuno.
"Dwi'n credu eu bod nhw'n teimlo'n unig y rhan fwyaf o'r amser - a ddim yn teimlo eu bod yn perthyn i Gymru nac i Brydain nac i'r cymunedau Moslemaidd maen nhw'n rhan ohonyn nhw, felly maen nhw'n edrych am ffordd arall o gael rhyw fath o lais," meddai.
Mae Geraint Whittaker yn honni bod 'na fwy o ymosodiadau ar Fwslemiaid yn Ne Cymru ers yr ymosodiad ar Ganolfan Fasnach y Byd ar Medi 11, 2001.
Mae'n rhybuddio fod modd i ragfarn a hiliaeth gyflyru mwy ohonyn nhw i gefnogi, neu hyd yn oed i ymuno a grwpiau eithafol.
Mae Manylu yn cael ei ddarlledu am 12.30, ddydd Iau Tachwedd 13.