'Siom' awdur adroddiad ar addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae awdur adroddiad ar addysg Gymraeg ail iaith wedi sôn wrth BBC Cymru am ei siom nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr argymhellion.
Fis Medi'r llynedd, fe rybuddiodd yr Athro Sioned Davies ei bod hi'n unfed awr ar ddeg ar y Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion, ac mae'n dweud fod 'na bryderon o hyd.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r adroddiad yn cael ei ystyried fel rhan o arolwg o'r cwricwlwm sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Daw sylwadau'r Athro Davies wrth i arolwg barn awgrymu fod mwyafrif pobl Cymru yn gefnogol i addysg Gymraeg.
Yn ôl yr arolwg, mae mwyafrif pobl Cymru yn credu y dylai pob disgybl adael yr ysgol yn medru cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
Roedd 56% o'r rhai a holwyd gan y corff polau piniwn YouGov yn cytuno â'r syniad y dylai ysgolion yng Nghymru, boed rheiny'n ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, anelu at sicrhau bod eu holl ddisgyblion yn dod yn gyfathrebwyr effeithiol yn y ddwy iaith.
Ond mae'r Athro Davies yn poeni am y sefyllfa gan ddweud "nad oes 'na ddim byd llawer wedi digwydd gyda'r adroddiad ers iddo fo gael ei gyhoeddi."
"Yn bersonol, dwi ddim yn teimlo fel bod llawer iawn wedi digwydd o gwbl. Ma'r holl bethe ro'n i wedi awgrymu ro'dd yna bethe galle wedi 'neud dros nos.
"Ond ma' yna bethe eraill fel adeiladu capasiti mae hynny mynd i gymryd llawer iawn o flynyddoedd.
"Fe ddwedes i yn yr adroddiad ei bod hi'n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Dwi ddim yn gwybod be sy'n dod ar ôl unfed awr ar ddeg. Ond fyswn i'n dweud bod y cloc bron wedi taro eto dwi'n credu."
Mae hi'n dweud nad ydi hi'n gallu gweld fawr o newidiadau.
"Mae 'na fwy o arian wedi cael eu rhoi i'r Gymraeg mewn meysydd eraill. Ond os ydyn ni eisiau ffocysu ar ysgolion - cael mwy o blant i siarad y Gymraeg mae'n rhaid i ni wneud mwy na hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adroddiad Sioned Davies, a gafodd ei gomisiynu gan Llywodraeth Cymru, yn cael ei ystyried fel rhan o arolwg o'r cwricwlwm sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan yr athro Graham Donaldson.
"Mae'r athro Donaldson eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr o gymdeithas yr Iaith, ac mae o yn gwrando yn astud ar eu pryderon wrth iddo ymgymryd â'r gwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd15 Mai 2014