Wyth newid i dîm Cymru yn erbyn Fiji
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Fiji yn yr ail gêm yng nghyfres yr hydref yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae wyth newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Awstralia y Sadwrn diwethaf a'r unig syndod mawr efallai yw nad yw Sam Warburton yn y garfan o gwbl.
Gethin Jenkins sy'n dychwelyd i'r rheng flaen, ac ef hefyd fydd y capten.
Un arall sydd ddim yn y 23 yw Jonathan Davies, er i'r hyfforddwr cynorthwyol Rob Howley awgrymu ddydd llun ei fod e wedi gwella o anaf.
Mae Scott Williams yn dychwelyd i'r canol gyda George North yn symud yn ôl i'r asgell, a Mike Phillips fydd yn dechrau yn safle'r mewnwr gyda Rhys Webb hefyd yn absennol.
Samson Lee yw'r unig un o'r rheng flaen i gadw'i le o'r Sadwrn diwethaf, ac mae ail reng newydd o Bradley Davies a Luke Charteris gyda Justin Tipuric yn disodli Warburton o'r rheng ôl.
Dywedodd Warren Gatland: "Mae nifer o newidiadau, ond rydym yn credu bod hwn yn dîm cryf i herio Fiji.
"Roeddem yn hapus gyda pherfformiad yr wythnos ddiwethaf, a'r gobaith yw adeiladu ar hynny gyda buddugoliaeth y penwythnos yma.
"Mae anafiadau wedi ein gorfodi i wneud ambell newid, ond dydyn ni ddim yn credu bod hynny'n gwanhau'r tîm"
Cymru v.Fiji: Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn, 15 Tachwedd :-
Olwyr: Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton Saints), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro);
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision, CAPT), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (Heb glwb), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), James King (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), James Hook (Caerloyw), Cory Allen (Gleision).
Straeon perthnasol
- 8 Tachwedd 2014