Lidl: 'Parchu hawl i siarad Cymraeg'
- Published
Mae archfarchnad Lidl wedi dweud wrth swyddfa Comisiynydd y Gymraeg eu bod yn "llwyr barchu hawl eu staff i siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid ac ymysg ei gilydd".
Daeth y sylw ar ôl i Swyddfa'r Comisiynydd gysylltu â phencadlys y cwmni dros y Sul, ynglŷn â sylwadau a wnaed i BBC Cymru Fyw yn dweud bod eu gweithwyr yn cael eu hatal rhag siarad unrhyw iaith heblaw'r Saesneg.
Fe wnaeth Cymru Fyw gysylltu gyda'r cwmni ynglŷn â'u polisi ar y Gymraeg ar ôl i ddau weithiwr yn yr Alban ddweud eu bod nhw "wedi cael eu bygwth â diswyddiad" am siarad Pwyleg yn ystod seibiant.
Ond mewn sgwrs gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, dywed y cwmni bod gan staff pob hawl i siarad Cymraeg gyda'i gilydd a gyda chwsmeriaid.
'Yn falch'
Mae Lidl UK hefyd wedi dweud wrth swyddfa'r Comisiynydd y byddan nhw'n diweddaru eu llawlyfr staff yng Nghymru i wneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o hawliau ieithyddol cwsmeriaid a gweithwyr o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Rwy'n falch bod Lidl wedi ymateb i fy llythyr ac wedi gwneud datganiad polisi clir sy'n dileu unrhyw amwysedd ynghylch defnydd o'r Gymraeg yn eu siopau.
"Mae'r cwmni wedi cadarnhau eu bod yn ystyried y Gymraeg fel sgil yn y gweithle."
Gwnaeth Lidl eu sylw gwreiddiol ynglŷn â defnydd o ieithoedd eraill heblaw Saesneg ddydd Gwener.
Ond erbyn dydd Sadwrn roedd safbwynt y cwmni wedi newid, gyda datganiad yn dweud eu bod yn deall fod ieithoedd swyddogol eraill yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig, ac yn croesawu'r ieithoedd hynny yn eu siopau.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn "gofyn i weithwyr, pan yn bosib, ymateb i gwsmeriaid yn yr iaith y maen nhw'n dymuno ei defnyddio".
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Tachwedd 2014
- Published
- 9 Tachwedd 2014
- Published
- 8 Tachwedd 2014
- Published
- 7 Tachwedd 2014