Ateb apêl eglwys am deulu a ffrindau i angladd cyn-filwr
- Published
Mae eglwys ym Mro Morgannwg wedi lansio apêl ar gyfryngau cymdeithasol am deulu neu ffrindiau i fynychu angladd cyn-filwr o'r ardal.
Bu farw Harold Morgan yn 85 oed, wedi iddo fod yng ngofal cartref yr henoed yn Y Barri ers 14 o flynyddoedd.
Mae ei angladd yn cael ei gynnal ddydd Iau yn Eglwys Sain Tathan, ond roedd pryder na fyddai teulu na ffrindiau yn mynychu.
Mi benderfynodd y Parch. Rachel Simpson lansio apêl yn galw ar bobl i fynychu'r angladd.
Dywedodd: "Daeth manylion yr angladd i ddwylo'r Eglwys heb unrhyw fanylion cyswllt i'r teulu, sy'n anghyffredin iawn.
"Roeddwn i'n poeni y byddai'r angladd yn cael ei fynychu gan gyfreithwyr a nyrsys yn unig, a dyw hynny ddim yn ffordd neis iawn o fynd."
Llwyddiant
Yn sgil yr apêl, mae 30 o fyfyrwyr Coleg Milwrol Caerdydd wedi ymateb i'r neges ac yn bwriadu mynychu'r angladd yfory.
Meddai Brian Edwards, Uwch gyfarwyddwr y Coleg: "Holl bwrpas yr wythnos hon yw cofio'r rhai a aberthodd eu bywydau dros ein gwlad, felly, rydym ni'n benderfynol o gefnogi apêl yr Eglwys a'r cyfle i estyn diolch am fywyd a gwaith Mr Morgan."
Mae hen ffrind i Mr Morgan hefyd wedi ymateb.
Cafodd Cylch Ymchwil Rheilffyrdd Cymru ei sefydlu gan y cyn-filwr ar y cyd â Rodney Hall ac mae'n debyg i'r ddau rannu diddordeb mewn trenau yn yr 1970au a'r 1980au.
Dywedodd Rodney Hall: "Roedd yn hapus iawn i rannu gwybodaeth, unwaith i chi ei berswadio bod gwir ddiddordeb gyda chi...yna mi fyddai'n eich helpu gymaint â phosib.
"Roedd yn ddyn anodd i fynd yn agos ato i ddechrau, ond unwaith iddo ymddiried yno chi, mi fyddai'n hapus iawn i helpu."
Dywedodd Mr Hall i'r cyn-filwr gael ei eni yn Rhydychen, er iddo fyw yng Nghaerfyrddin cyn symud i Fro Morgannwg.