Caerdydd a Bryste i gyd-weithio er budd economaidd
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall fod Cyngor Dinas Caerdydd mewn trafodaethau cynnar gyda Maer Bryste i siarad am gyd-weithio'n agosach i farchnata eu hardaloedd.
Mae'n debyg mai'r gobaith fydd i'r ddwy ddinas weithio ar y cyd ar bethau fel prosiectau ynni a chludiant adnewyddadwy.
Mae arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, yn dweud eu bod yn rhaid iddynt gydnabod bod y ddwy ardal yn cystadlu am fuddsoddiad gyda rhanbarthau dinasoedd mawr yn Lloegr ac yn arbennig gogledd Lloegr lle mae dinasoedd yn gweithio gyda'i gilydd.
Ychwanegodd: "Os nad yw Caerdydd yn gweithio gyda chanolfan fawr fel Bryste, bydd Caerdydd ar ei hôl hi yn economaidd, ond gyda'i gilydd gallant lobïo llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddiadau."
Gwadodd y Cynghorydd Bale eu bod fel cyngor yn troi eu cefn ar ddatganoli yng Nghymru, yn ogystal â gwadu'r ffaith fod rhanbarth Dinas Caerdydd wedi dyddio.
Mae'r Cynghorydd Bale yn dweud ei fod yn credu bod gwahanol lefelau o lywodraethu yn iawn ar gyfer gwahanol bethau.
Mae'n dweud fod angen "i Caerdydd a Bryste fod yn lobïo ar gyfer buddsoddiadau mewn marchnata a thrafnidiaeth ac i fod yn dynfa i'r gorllewin y tu allan i Lundain yn y ffordd y mae'r Bartneriaeth 'One North' yn tynnu ddinasoedd yn y gogledd at eu gilydd."
'Synhwyrol iawn'
Wrth siarad gyda rhaglen y Post Prynhawn, dywedodd Geraint Talfan Davies, cyn-bennaeth y Sefydliad Materion Cymreig, bod y syniad o gydweithio rhwng Caerdydd a Bryste yn "synhwyrol iawn", a bod "mwy i'w ennill drwy gydweithio na thrwy gystadlu".
Dywedodd bod y gystadleuaeth rhwng gogledd a de Lloegr - gyda dinasoedd yn y gogledd yn cydweithio gyda'i gilydd - yn cael effaith wleidyddol, wrth i wleidyddion gystadlu i "addo popeth" i'r gogledd, a bod rhaid sicrhau na fyddai hynny'n digwydd ar draul ardaloedd yn y de, megis Caerdydd a Bryste.
Ond pwysleisiodd na fyddai cydweithio gyda Bryste yn golygu y byddai Caerdydd yn troi ei chefn ar weddill Cymru. Dywedodd bod yn rhaid i Gaerdydd edrych tua'r cymoedd, gan greu rhanbarth dinesig, bod angen cydweithio gyda'r de-orllewin, ynghyd â chydweithio gyda Bryste.
Dywedodd bod bron i 70 o lefydd yn Ewrop ble mae dinasoedd yn cydweithio ar draws ffiniau cenedlaethol, ac y dylid ystyried creu un rhanbarth ar draws ffin Cymru a Lloegr, rhwng Caerfaddon a Llanelli. Pwysleisiodd nad oedd rhaid dewis rhwng datblygiadau yng Nghymru a gwneud rhywbeth ehangach.