Dŵr Cymru: Cyflwyno tariff newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cwmni wedi lansio tariff newydd maen nhw'n dweud fydd o fudd i dros 100,000 o'u cwsmeriaid mwyaf difreintiedig.
Bydd y tariff newydd yn dod i rym yn Ebrill 2015.
Cafodd y cynllun ei lansio ar yr un diwrnod â chyhoeddi canlyniadau Dŵr Cymru am y chwe mis diwethaf.
Yn ôl y cwmni, bydd yn tariff newydd yn arbed tua £250 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Fe fydd manylion am sut i wneud cais am y tariff newydd yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn y 2015.
Dywed y cwmni eu bod yn amcangyfrif bod tua 160,000 o gwmsriaid yn ei chael hi'n anodd talu biliau dŵr gan ei fod yn cyfateb i dros 5% o'u hincwm teuluol.
Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi 1.4 miliwn o gwmsmeriaid yng Nghymru a Swydd Henffordd.
Chwyddiant
Yn wahanol i fyrddau dŵr eraill yng Nghymru a Lloegr, does gan y cwmni ddim cyfranddalwyr, gydag unrhyw elw yn cael ei fuddsoddi yn ôl i'r cwmni.
Mae'n nhw wedi gosod targed o geisio cadw'r cynnydd yn y ffi flynyddol dan y raddfa chwyddiant tan 2020.
Mae'r adroddiad am berfformiad y cwmni dros y chwe mis diwethaf yn dangos fod y cwmni wedi buddsoddi £174 mewn prosiectau cyfalaf yn y chwe mis tan Medi 2014.
Dywedodd Carl Sargeant Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r tariff yn gam pwysig i sicrhau fod gwasanaethau dŵr yn rhywbeth fforddiadwy i'r holl gwsmeriaid.
"Bydd o'n rhoi to neu gap ar filiau i bawb ar incwm isel. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r cwmnïau dwr ac Ofwat i barhau â'r gwaith yma yn y flwyddyn nesaf."