Bachgen ysgol yn cyfaddef treisio merch
- Cyhoeddwyd

Mae bachgen ysgol o Wynedd wedi cyfaddef treisio merch ysgol yn dilyn gwers addysg rhyw yn yr ysgol.
Fe wnaeth y bachgen ymosod ar y ferch rhwng Ionawr ac Ebrill 2012 pan oedd y ddau yn 13 oed.
Roedd y bachgen wedi gofyn a oedd y ferch am gael rhyw gydag o, ac ar ôl iddi wrthod sawl gwaith, fe wnaeth ei threisio.
Yn Llys Ieuenctid Dolgellau ddydd Iau, cafodd y bachgen orchymyn cyfeirio 12 mis, a bydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am 30 mis.
Clywodd y llys nad oedd y ferch wedi dweud wrth unrhyw un am y digwyddiad, ond bod nyrs ysgol wedi sylweddoli bod rhywbeth o'i le, ac yna dywedodd y ferch beth oedd wedi digwydd.
Cafodd yr heddlu wybod ac fe gyfaddefodd y bachgen, sydd bellach yn 15 oed, iddo dreisio'r ferch.
Dywedodd y Barnwr Rhanbarth Andrew Shaw bod yr opsiynau dedfrydu wedi eu cyfyngu oherwydd mai'r Llys Ieuenctid oedd yn ymdrin â'r achos.
Dywedodd: "Roedd hi'n rhy ifanc a ni ddylech chi wedi gwneud yr hyn wnaethoch chi.
"Ond mae'n rhaid i mi eich dedfrydu yn unol â fersiwn yr amddiffyniad o beth ddigwyddodd."