Rhybuddion am wyntoedd cryfion
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i wyntoedd o hyd at 75 m.y.a. daro arfordir gorllewin Cymru ac mae difrod eisoes wedi ei achosi wrth i goed gwympo.
Cafodd cyfyngiadau cyflymdra eu gosod ar rannau o'r M4, a bu'r A470 ar gau yn ardal Llanfair ym Muallt ar ôl i goeden gwympo.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae rhybudd oren, byddwch yn barod ar gyfer problemau trafnidiaeth, wedi ei gyhoeddi ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Abertawe, Ceredigion, Gwynedd a Phenfro.
Mae rhybudd oren hefyd yn rhybuddio am ddifrod posib i adeiladau a choed.
Cafodd cyfyngiadau o 40 m.y.a. eu gosod ar yr hen Bont Hafren, ac mae un lôn wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Rhybudd llifogydd
Mae cyfyngiadau cyflymdra hefyd ar yr M4 yn Llansawel, a rhwng cyffordd 41 a 42.
Fe gwympodd dwy goeden ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd - A465 - rhwng cylchdro Cefn Coed a chylchdro Dowlais.
Mae coeden arall sydd wedi cwympo yn rhwystro traffig ar ran arall o'r A465, rhwng Baverstocks a chylchdro Hirwaun.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer tir isel gerbron afonydd yn ne Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2014
- 10 Tachwedd 2014
- 7 Tachwedd 2014
- 28 Hydref 2014