Beth yw arwyddair eich ysgol?
- Cyhoeddwyd
Dydd Gwener 14 Tachwedd, a hithau'n ddiwrnod Plant Mewn Angen, mi fydd miloedd o ddisgyblion Cymru yn cael mynd i'w hysgol heb eu gwisg arferol.
Ond ydych chi'n cofio pa eiriau oedd yn addurno eich siwmper ysgol chi - yr arwyddair pwysig? Rhowch gynnig ar brawf Cymru Fyw i weld os allwch chi ddyfalu pa air, neu eiriau, sydd ar goll yn yr enghreifftiau canlynol.
Atebion ar waelod y sgrîn.
1. Ysgol Preseli, Crymych
Cofia _________ Byw
a) Ble ti'n
b) Joio
c) Dysgu
2. Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
Harddwch Dysg ____________
a) Doethineb
b) Dawn
c) Chwarae
3. Coleg Llanymddyfri
Gwell _________ Na Golud
a) Arian
b) Dysg
c) Dawn
4. Ysgol Dyffryn Taf, Hendy-gwyn ar Daf
I __________ Fo'r Nod
a) Fyny
b) Lawr
c) Unrhywle
5. Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe
Ennill ___________ Yw Ennill Iaith
a) Llwyr
b) Ras
c) Etifeddiaeth
6. Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Hau _________ Dyfodol
a) Gwair y
b) Blodau'r
c) Hadau'r
7. Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn
Hau i _______
a) Gasglu
b) Fedi
c) Chwysu
8. Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan
A Fo Ben Bid _________
a) Bant
b) Cant
c) Bont
9. Ysgol Llanfair Caereinion
Golud Pawb Ei ___________
a) Ymgais
b) Ymdrech
c) Ymdaith
10. Ysgol Gyfun Pontllanfraith, Coed Duon
___________ Oleuni
a) Cais
b) Bydded
c) Digon o
11. Ysgol Aberteifi
________ a Lwydd
a) Ymdrech
b) Arian
c) Egni
12. Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn
Ysbrydoli _____________
a) Pobl
b) Dysgu
c) Ymdrech
Atebion:
1. Ysgol Preseli: Cofia Dysgu Byw
2. Ysgol Glan Clwyd: Harddwch Dysg Doethineb
3. Coleg Llanymddyfri: Gwell Dysg na Golud
4. Ysgol Dyffryn Taf: I Fyny fo'r Nod
5. Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Ennill Llwyr yw Ennill Iaith
6. Ysgol Syr Hugh Owen: Hau Hadau'r Dyfodol
7. Ysgol Bodedern: Hau i Fedi
8. Ysgol Bro Pedr: A Fo Ben Bid Bont
9. Ysgol Llanfair Caereinion: Golud Pawb ei Ymgais
10. Ysgol Gyfun Pontllanfraith: Cais Oleuni
11. Ysgol Aberteifi: Egni a Lwydd
12. Ysgol Uwchradd Eirias: Ysbrydoli Dysgu