Rali Cymru-GB yn cychwyn
- Cyhoeddwyd

Bydd Rali Cymru-GB yn cychwyn ddydd Gwener, gyda'r gyrrwyr yn teithio o amgylch gogledd a chanolbarth Cymru.
Y digwyddiad rhyngwladol, sy'n para tridiau, yw'r cymal olaf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, gan weld 106 o gystadleuwyr yn cymryd rhan.
Mae'r cystadleuwyr yn cynnwys Elfyn Evans, 25 oed o Ddolgellau, mab cyn-bencampwr rali Prydain, Gwyndaf Evans.
23 cymal
Mynychodd filoedd o bobl lansiad y rali yn Stadiwm Parc Eirias, ym Mae Colwyn, nos Iau.
Dyma'r ail flwyddyn i'r rali gychwyn o ogledd Cymru, wedi iddo symud o Gaerdydd y llynedd.
Mae'r cwrs yn mynd â'r gyrrwyr drwy goedwigoedd Eryri, Sir Ddinbych a Chanolbarth Cymru.
Mae 23 cymal i'r rali, sy'n ymestyn dros dri diwrnod.
191 o filltiroedd
Dechreuodd y rali yn gynnar fore heddiw gyda chymal Coedwig Gartheiniog.
Dyma'r tro cyntaf i'r dorf allu gwylio'r cymal hwn, cymal mae'r trefnwyr wedi'i ddisgrifio fel 18km o "her pur" ar gyfer y cystadleuwyr.
Rali Cymru-GB yw'r 13eg cymal, a'r rownd olaf o Bencampwriaeth Rali'r Byd eleni.
Mae Rali Cymru-GB yn gystadleuaeth dros dri diwrnod, gyda 23 o gymalau, dros 191 o filltiroedd.
Bydd y cystadleuwyr yn gyrru drwy ganolbarth Cymru ddydd Gwener, cyn dychwelyd i ogledd Cymru ddydd Sul, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llandudno.