Dim hediadau rhwng Caerdydd a'r Almaen

  • Cyhoeddwyd
Awyren GermanwingsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Roedd gobaith y byddai'r hediadau yn denu mwy o deithwyr i Faes Awyr Caerdydd.

Mae'r cwmni o'r Almaen, Germanwings, yn rhoi'r gorau i gynnig teithiau awyrennau rhwng Caerdydd a Düsseldorf.

Dywedodd y cwmni wrth BBC Cymru na fyddai unrhyw hediadau rhwng y ddwy ddinas yn 2015.

Ond yn ôl Maes Awyr Caerdydd, mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â'r gwasanaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu'r maes awyr, Spencer Birns, bod llawer o waith wedi ei wneud i geisio hybu twristiaeth rhwng Cymru a'r Almaen yn ddiweddar.

Dywedodd: "Mae'r adroddiadau heddiw yn ymwneud a'r gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gamarweiniol ac rydyn ni mewn trafodaethau gyda nifer o gwmnïau - gan gynnwys Germanwings, ynglŷn â cheisio parhau i ddatblygu'r gwasanaethau sy'n cysylltu Cymru a'r Almaen yn 2015 ac ymhellach, sy'n cynnwys y daith i Dusseldorf."

Does dim sylw hyd yma gan Lywodraeth Cymru.