Bil Cynllunio: Yr hoelen olaf
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â gwneud gwelliannau i'r Bil Cynllunio, er i Gomisiynydd y Gymraeg dynnu sylw at fethiannau mewn rhoi lle canolog i'r iaith Gymraeg.
Dywed Mesur y Gymraeg bod rhaid i'r Llywodraeth dalu "sylw dyladwy" o gyngor y Comisiynydd, ac yn sgil anwybyddu hyn, gallai'r Bil Cynllunio fod yn "anghyfreithlon", yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi ysgrifennu at Llywodraeth Cymru ddwywaith yn lleisio pryderon ac yn galw am newidiadau sylweddol i'r Bil oherwydd ei effaith ar yr iaith a democratiaeth leol.
Dim gwelliannau
Daeth dim gwelliannau i'r Bil, a nawr, gallai gael ei ddiddymu mewn her gyfreithiol, medd Cymdeithas yr Iaith.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan: "Nid ar chwarae bach mae rhywun yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, ond mae'r Llywodraeth wedi cael sawl cyfle i wrando ar gyngor arbenigol y Comisiynydd a'i weithredu, ac wedi gwrthod bob tro.
"Mae'r cyngor rydyn ni wedi'i dderbyn yn galonogol, ac mae na siawns gref bod y Llywodraeth wedi rhedeg proses wallus.
"Er gwaethaf yr holl gyngor, mae Carwyn Jones wedi dewis peidio â rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth."
Yr hoelen olaf
Gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg bedwar awgrym ar welliannau i'r Bil ac er gwaethaf addewid y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i ystyried "pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu'r Gymraeg o fewn y system gynllunio" - doedd dim adlewyrchiad o hynny ym Mil Cynllunio mis Hydref.
Ychwanegodd Jamie Bevan mai "ofer yw dynwared system Lloegr" ac y gallai'r Bil fod "yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg."
Gofynnodd BBC Cymru Fyw am ymateb Comisiynydd y Gymraeg, ond fe ddewisodd y Comisiynydd i beidio ag ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013