Rhybudd am lifogydd pellach yn ne orllewin Cymru
- Published
Mae arbenigwyr tywydd yn rhybuddio y gall glaw trwm achosi llifogydd pellach mewn rhannau o dde orllewin Cymru sydd eisoes wedi dioddef llifogydd yn yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.
Mae'r ddwy sir wedi gweld llifogydd dros y penwythnos diwethaf ynghyd â glaw trwm dros nos ddydd Mercher.
Yn ôl rhybudd y Swyddfa Dywydd mae'r tir yn parhau i fod yn ofnadwy o wlyb yn dilyn y glaw sydd eisoes wedi disgyn.
Dywed: "Ble bydd cawodydd trymion am gyfnodau hir mae risg cynyddol o lifogydd."
Yn ôl yr arbenigwyr gall y cawodydd "uno" wrth deithio ar draws de orllewin Cymru, gan greu cyfnodau o law trwm a all barhau am awr neu fwy.
Mae'r rhybudd yn parhau o 16:00 ddydd Gwener i 06:00 ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Tachwedd 2014
- Published
- 11 Tachwedd 2014
- Published
- 10 Tachwedd 2014
- Published
- 7 Tachwedd 2014