Cyrch cyffuriau: Cyhuddo chwech
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhuddo chwech o ddynion rhwng 33 a 47 oed o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B yng ngogledd Cymru.
Cafodd y chwech, o ardaloedd Bangor a Manceinion, eu harestio ddoe, fel rhan o grych Operation Scorpion.
Mae Paul David Williams (40), Mark Andrew Jones (36), Scott Anthony Jones (33) a Darren Williams (29) yn dod o ardal Bangor.
Yn ogystal, mae dau ddyn o Fanceinion a Sir Caer wedi eu cyhuddo.
Mae Paul David Williams yn cael ei gyhuddo o ddod a chyffur wedi ei wahardd i mewn i garchar hefyd.
Dywedodd y ditectif arolygydd Arwyn Jones, sy'n arwain y cyrch: "Cafodd yr arestiadau eu gwneud fel rhan o'n brwydr hir a chyson yn erbyn troseddau difrifol ac mae hyn yn ganlyniad i waith ymchwil hirdymor."
Mae'r chwech yn cael eu cadw yn y ddalfa. Bydd pump yn ymddangos o flaen Ynadon Caernarfon yfory, a'r chweched yn ymddangos ddydd Llun.
Ychwanegodd: "Bydd y cyrch yn mynd yn ei flaen ac mae hyn yn profi ein awch a'n hawydd i ddatrys y bygythiad yma."
Dywedodd hefyd ei fod yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â chyflenwi neu gynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111."
Straeon perthnasol
- 13 Tachwedd 2014
- 13 Ionawr 2014