Pryder Unsain am effaith toriadau Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Dydy undeb Unsain heb ddweud na i weithredu diwydiannol wedi iddyn nhw rybuddio Cyngor Caerdydd y bydd y toriadau o £32m yn arwain at "ganlyniadau difrifol".
Mae cyngor mwyaf Cymru yn ceisio delio â diffyg o £48m ac y gallai hyn arwain at golli swyddi, llai o wasanaethau hamdden, a thoriadau i wasanaethau gofal ac iechyd
Fe allai godi treth cyngor 5% hefyd yn 2015-16, ac arbed £5m mewn costau cyflogaeth.
Mae undeb Unsain yn dweud eu bod yn parhau i weithio gyda'r cyngor sydd yn wynebu "sialenau ariannol sylweddol".
Yn ôl trefnydd rhanbarthol undeb Unsain, Steve Belcher, bydd pobl yn ddig oherwydd hyd a lled y toriadau, allai weld goleuadau stryd yn cael eu diffodd a diwedd i ariannu dathliadau Calennig y Brifddinas.
Dywedodd nad ydi'r undeb wedi gadael y bwrdd trafod eto ond bod gweithredu diwydiannol yn bosibilrwydd.
"Dydy o ddim yn rhywbeth y byddem yn dymuno amdano ond yn y pen draw, weithiau, mae'n rhywbeth mae'n rhaid ei ystyried."
Mae'n bosib mai gofal iechyd a chymdeithasol fyddai'n derbyn yr ergyd galetaf gyda £7.9m yn cael ei dorri o'r adran hon, yn ôl adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan gabinebt y Cyngor ddydd Iau.
Ar ben y toriadau, mae'r cyngor yn anelu at arbedion effeithlonrwydd o £2m a chodi £13m ychwanegol.
Mae'r adroddiad yn dweud "ei fod yn debygol y bydd diswyddiadau o fewn gweithlu'r cyngor," a'r gred yw y byddai'r ffigwr dros 20 o bobl.
'Penderfyniadau anodd'
Os yw'r cabinet yn cytuno â'r cynlluniau, fe fyddant yna yn ymgynghori â'r cyhoedd.
Yn ôl y Cynghorydd Graham Hinchey: "Does dim dwywaith bod .. penderfyniadau anodd o'n blaenau. Rydym wedi ymroi i gydweithio gyda staff, yr undebau a chymunedau lleol drwy'r ymgynghoriad.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2014