Corff ar draeth Aberafan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod corff dynes wedi'i ddarganfod ar draeth Aberafan, ger Port Talbot.
Fe ddaeth aelod o'r cyhoedd ar draws y corff tua 1 o'r gloch brynhawn Sadwrn.
Mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau er mwyn ceisio adnabod y ddynes ac i ddarganfod amgylchiadau ei marwolaeth.
Does dim mwy o fanylion ar hyn o bryd.