Sylwadau annymunol ar gynnydd

  • Cyhoeddwyd
night outFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 1 o bob 4 menyw ifanc rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael eu cyffwrdd mewn ffordd anaddas, neu dderbyn sylw corfforol annymunol ar noson arall.

Yn ôl elusen Drinkaware, mae'r broblem yn waeth yma yng Nghymru nag unrhyw ran arall o Brydain.

Dywedodd yr elusen, ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, bod y "diwylliant o yfed yn drwm sy'n arwain at ymosodiadau rhywiol yn datblygu'n rhywbeth normal ar noson allan i fenywod ifanc."

Mae 69% yn teimlo'n ffiaidd o'i herwydd, ac mae 39% yn ofnus.

O'r merched sydd wedi profi hyn, ychydig iawn, 19% yn unig, sy'n dweud eu bod wedi cael eu synnu pan mae'n digwydd iddyn nhw.

Mae nhw hefyd yn rhybuddio nad dim ond problem i fenywod ifanc yw hon. Mae 11% o ddynion ifanc yn dweud eu bod yn gorfod delio gyda sylw corfforol annymunol neu anaddas hefyd.

Mae 'na alw rwan ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r deddfau yn y maes.

Yn ôl yr ymgynghorydd gwleidyddol a'r ymgymgyrchydd dros hawliau merched, Nerys Evans: "Mi fyswn i'n amau'n gryf iawn bod y ffigyrau yn uwch na hyn a bod y diffyg cofnodi, o bosib, yn awgrymu bod hyn yn rhywbeth rydym yn ei hanfod yn ei dderbyn ar noson allan. Dwi'n credu bod hyn yn codi cwestiynau difrifol am gymdeithas, at ein hagwedd at ferched, yn arbennig ar nosweithiau allan.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf trais yn sefydledig ar ryw y person yn y Cynulliad ar hyn o bryd, a dwi wir yn gobeithio y bydd yn cael ei gryfhau yn nhermau'r elfennau addysgiadol yma, fel bod ganddon ni sylfaen gadarn yn nhermau addysgu ein pobl ifanc am berthynas iach.

"Dwi'n credu'n gryf y dylid plannu'r elfennau hyn yn ein system addysg ac fe fydd yn talu ar ei ganfed mewn blynyddoedd i ddod, - plannu beth ydi perthynas iach, a parchu ein gilydd waeth beth fo'n rhyw, ein crefydd neu'n cred - Mi fydd plannu'r rhain yn ein hysgolion, yn nhermau'r egwyddorion hyn, yn hollol hanfodol wrth symud ymlaen."

Rydym yn disgwyl ymateb gan Lywodraeth Cymru.