Sheffield Utd yn beirniadu'r ymosodiadau ar feirniaid Ched Evans
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Sheffield United yn condemnio'r ymosodiadau geiriol ar y rheiny sydd wedi beirniadu penderfyniad y clwb i ganiatáu i'r cyn chwaraewr Ched Evans, oedd wedi'i gael yn euog o dreisio, hyfforddi gyda nhw unwaith eto ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Cafwyd y pêl-droediwr yn euog yn 2012 o dreisio dynes mewn gwesty yn Sir Ddinbych.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiadau geiriol ar Twitter yn erbyn y bencampwraig Olympaidd Jessica Ennis-Hill.
Fe ddywedodd Sheffield United mewn datganiad eu bod wedi'u brawychu at y geiriau sarhaus oedd yn cael eu cyfeirio at rai o'u cefnogwyr enwog.
Fe ychwanegodd y clwb y byddai'r rhai sy'n gyfrifol yn cael eu gwahardd am oes o Bramall Lane.
Roedd Ennis-Hill wedi dweud y byddai eisiau ei henw gael ei dynnu o eisteddle ar faes United petai cyn-chwaraewr y Blades a Chymru, Ched Evans, 25 oed, yn cael cynnig cytundeb newydd gyda'r clwb.
Mae dadlau wedi bod ynghylch a ddylai ailgydio yn ei yrfa pêl-droed.
Mae'r clwb sy'n chwarae yn adran un y gynghrair bêl-droed yn parhau i drafod cyn gwneud penderfyniad hirdymor am y chwaraewr rhyngwladol o Gymru.
Mae un o noddwyr kit dillad United hefyd wedi dweud y byddent yn rhoi'r gorau i'r cysylltiad rhyngddynt petai Evans yn ail-arwyddo, tra bod tri noddwr y clwb wedi ymddiswyddo yn y dyddiau diwethaf.
Fe ychwanegodd Sheffield United yn y datganiad: "Mae'r clwb yn credu bod gan y cefnogwyr, unigolion a chwmnïau hyn yr hawl, fel unrhyw un arall, i roi eu barn ar sefyllfa bresennol y clwb.
"Fydd Sheffield United ddim yn derbyn yr ymosodiadau hyn sy'n cael eu derbyn gan y rhai sydd wedi lleisio barn.
"Mae nhw'n teimlo ei fod wedi bod yn angenrheidiol ac wedi bod yn ddigon dewr i wneud datganiad ac fe ddylai hynny gael ei barchu."
Achos Ched Evans
Cafodd y chwaraewr 25 oed ei ryddhau ym mis Hydref ar ôl cwblhau hanner ei ddedfryd o bum mlynedd am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan.
Roedd Evans wedi gwadu'r cyhuddiad, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon.
Roedd Evans wedi cyfaddef iddo gael rhyw gyda'r ddynes, ond dywedodd y ddynes nad oedd ganddi unrhyw gof o'r digwyddiad.
Yn ôl yr erlyniad roedd y ddynes yn rhy feddw i allu cydsynio.
Cafodd apêl gan Evans yn erbyn ei ddyfarniad ei wrthod gan dri barnwr yn y Llys Apêl yn 2012.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2014
- 13 Awst 2014
- 27 Awst 2014