BBC Cymru Fyw

Elfyn Evans yn 5ed: Rali Cymru-GB

Published
image captionDyma oedd wythfed buddugoliaeth Sebastien Ogier mewn 13 ras eleni.
Y Ffrancwr Sebastien Ogier yn ennill Rali Cymru-GB ond y Cymro, Elfyn Evans yn cipio'r 5ed safle.
Roedd Ogier wedi arwain o'r dechrau i'r diwedd i ennill dros Volskwagen, yn rasio drwy draciau fforestydd Cymru 37.6 eiliad o flaen y gŵr o'r Ffindir, Mikko Hirvonen.
Dyma oedd wythfed buddugoliaeth Ogier mewn 13 ras eleni, ac roedd ei dasg yn haws wedi i'w gyd-yrrwyr dros Volskwagen, Andreas Mikkelsen a Jari-Matti Latvala gael damweiniau.
image captionFfrwydro'r siampên!
Roedd Hirvonon, ddaeth yn ail, yn cystadlu yn ei ras olaf cyn ymddeol, ac roedd 26 eiliad yn glir oddi wrth Mads Ostberg o Norwy yn ei Citroen.
Roedd hi wedi bod yn frwydr hefyd rhwng Hirvonon a'r Prydeiniwr Kris Meeke tan i Meeke ddifrodi dau deiar a syrthio i lawr i'r chweched safle.
Roedd yn gyfle hefyd i'r Cymro, Elfyn Evans, 25 oed o Ddolgellau, gipio'r bumed salfe yn ei Fiesta RS, er mawr foddhad i'w gefnogwyr.
Elfyn yw mab cyn-bencampwr rali Prydain, Gwyndaf Evans.

80,0000 o wylwyr

Dyma'r ail flwyddyn i Rali Cymru-GB gychwyn o ogledd Cymru, wedi iddo symud o Gaerdydd y llynedd.
image captionBu 80,000 o bobl yn gwylio'r rali dros y tri diwrnod.
Roedd y cwrs yn mynd â'r gyrrwyr drwy goedwigoedd Eryri, Sir Ddinbych a Chanolbarth Cymru.
Mae 23 cymal i'r rali, sy'n ymestyn dros dri diwrnod ac yn 191 o filltiroedd i gyd.
Dyma yw'r cymal olaf ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd, ac roedd 106 o gystadleuwyr yn cymryd rhan.
Yn ôl Jonathan Gill, llefarydd ar ran Rali Cymru-GB, roedd oddeutu 80,000 o bobl wedi bod yn gwylio'r rali dros y tri diwrnod.

Straeon perthnasol

  • Rali Cymru-GB yn cychwyn