Dod o hyd i gorff ym Mhennal

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn ymchwilio wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhennal, Gwynedd.

Roedd y gwasanaethau brys wedi'u galw i'r tŷ am 10.15 bore Sul, Tachwedd 16, wedi i gorff dyn 26 oed gael ei ddarganfod.

Mae swyddogion wedi cadarnhau bod tân wedi bod yn y tŷ cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei drin fel un amheus.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Richie Green: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i amgylchiadau y digwyddiad trasig hwn, ac fe fyddwn yn apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth fyddai'n gallu helpu, ein cysylltu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod: R180626.