Cwest i ddechrau yn dilyn ymosodiad canibalaidd
- Published
Bydd cwest i farwolaeth Cerys Yemm, a gafodd ei llofruddio mewn llety gwely a brecwast i'r di-gartref yn Argoed, yn dechrau ddydd Gwener.
Bu farw Cerys Marie Yemm, 22, wedi i Matthew Williams ymosod arni ar 6 Tachwedd eleni.
Mae disgwyl i arolwg trosedd ddifrifol gael ei agor a'i ohirio yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd ddiwedd yr wythnos.
Bu farw Matthew Williams ar ôl i heddlu ddefnyddio gwn Taser arno.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth, ond nid oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer cwest.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Tachwedd 2014
- Published
- 9 Tachwedd 2014
- Published
- 8 Tachwedd 2014
- Published
- 7 Tachwedd 2014
- Published
- 11 Tachwedd 2014