Cyn-filwyr yn adfer beddau rhyfel
- Published
Mae cyn-filwyr wedi bod yn ymweld â mynwentydd yn Sir y Fflint fel rhan o brosiect elusen i adfer beddau rhyfel yng ngogledd Cymru.
Mae gwirfoddolwyr o'r elusen CAIS a gwasanaeth cynghori'r elusen, Change Step, wedi bod yn gweithio ar fynwentydd gan gynnwys rhai yng Nghei Connah, Treffynnon, Bwcle a Treuddyn i dacluso'r beddau o'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.
Mae'r elusen, sydd wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru, yn helpu cyn-filwyr sydd yn dioddef o Anhwylder Straen wedi Trawma.
Dywedodd David Nolan, cyn-filwr sydd nawr yn fentor i'r elusen: "Mae'r prosiect yma'n wych i bob un ohonom.
"Mae'n gyfle i'r bechgyn sydd yn dioddef o Anhwylder Straen wedi Trawma gael cwrdd gyda chyn-filwyr eraill ar waith sydd o fudd i bawb.
"Hyd yn hyn rydym wedi gweithio ar 400 o feddau gan gynnwys y rhai yn Sir y Fflint."
Mae yna 2,000 o feddau Rhyfel y Gymanwlad yng ngogledd Cymru a nod y prosiect yw ceisio adfer 700 i 800 ohonynt.
Yn y pen draw, mae'r prosiect yn anelu at ddatblygu adnoddau gwybodaeth leol am feddau a mynwentydd rhyfel ledled y rhanbarth.
Dywedodd Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: "Roedd yn wych cwrdd â chyn-filwyr sydd wedi bod yn gweithio mor galed i gadw beddau ein harwyr rhyfel mewn cyflwr da.
"Mae'r prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth am y miliynau o fywydau a gollwyd yn ystod y Rhyfeloedd Byd ac mae diolch mawr iawn yn mynd i'r cyn-filwyr am roi eu hamser i weithio ar y beddau.
"Mae'n gyfle iddyn nhw weithio yn y gymuned leol yn ogystal ag ein hatgoffa am aberth ein lluoedd arfog wrth wasanaethu eu gwlad."
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mawrth 2013