Llwybr peilon: Cyfle olaf i drigolion Powys fynegi barn
- Cyhoeddwyd
Mae sesiynau ymgynghoriad olaf y Grid Cenedlaethol ar adeiladu dwsinau o beilonau yng nghanolbarth Cymru yn dechrau ddydd Mawrth.
Fe fydd y Grid, sy'n rheoli rhwydwaith trydan Prydain, yn cyhoeddi lle yn union maen nhw am osod osod 72 o beilonau yn Sir Drefaldwyn.
Dros gyfnod o bedair blynedd mae nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r peilonau a'r ffermydd gwynt.
Bydd y peilonau yn bwydo trydan o ffermydd gwynt arfaethedig i'r grid cenedlaethol.
Yr Adran Ynni yn San Steffan fydd a'r gair olaf ynglŷn â rhoi caniatâd cynllunio i'r ffermydd gwynt.
Yn y cyfamser mae'n rhaid i'r Grid Cenedlaethol gynllunio ar gyfer y peilonau, ac maen nhw'n ymgynghori ynglŷn â lle i osod 30 milltir o wifrau peilon, cynllun fydd yn costio £300 miliwn.
Fe fydd y gwifrau yn cludo ynni o is-orsaf yng Nghefn Coch, ger Llanfair Caereinion, i'r grid - hynny pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi i'r ffermydd gwynt.
LLWYBR Y GWIFRAU YNNI
- Byddai'r rhan orllewinol o'r gwifrau uwchben y tri yn mynd o Gefn Coch am bellter o wyth milltir, ac yn golygu gosod 49 peilon.
- Mae'r rhan ddwyreiniol o'r llwybr, uwchben y tir ac i'r ffin gyda Sir Amwythig yn bellter o 5.2 milltir, ac yn golygu gosod 23 peilon.
- O ran sir Amwythig fe fydd yna tua 15 cilomedr o wifrau, gan olygu gosod 43 peilon.
Ffynhonnell : National Grid Cysylltaid Canolbarth Cymru
Byddai'n cymryd mwy na dwy flynedd i'w gwblhau, ac fe allai'r gwaith ddechrau yn 2019.
Dywedodd Chris Isaac, o'r Grid Cenedlaethol: "Rydym yn gwybod fod yna rhai sydd ddim yn hoffi beth rydym yn ei wneud, ac rydym yn ceisio lleihau'r effaith fydd hyn yn ei gael. "
"Mae rhoi gwifrau dan ddaear am wyth milltir - tua chwarter o'r pellter - yn ddatblygiad sylweddol?"
Dywedodd Peter Ogden, Ymgyrch Ddiogelu Cymru Wledig: "Er y gallai tyrbinau gwynt ddod a busnes i'r ardal, fe allan nhw hefyd gael effaith negyddol ar dwristiaeth."
GWAHANOL BEILONAU
Dywed y Grid Cenedlaethol ei bod yn bwriadu defnyddio dwy fodel o beilon, o wahanol uchder, er mwyn lleihau'r effaith ar y tirlun.
"Rydym yn awyddus iawn i glywed barn pobl ar y peilonau, pa un sydd well ganddynt a pham," meddai Jeremy Lee, rheolwr y prosiect.
Yn ôl y Grid Cenedlaethol bydd cost enfawr o roi'r holl geblau dan ddaear, cost byddai'n rhaid ei drosglwyddo i'r cwsmeriaid.
Bu cannoedd o wrthwynebwyr yn protestio ei erbyn pan ddechreuodd ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect y llynedd.
Cyn hir, mae disgwyl i'r arolygwyr cynllunio gyflwyno eu hadroddiad i'r Adran Ynni yn San Steffan.
Mae nifer o bentrefwyr Llansantffraid ym Mechain, Powys, yn anhapus oherwydd eu bod yn teimlo fod llwybr y peilonau'n rhy agos.
Yn ôl y gwrthwynebwyr, mae'r grid wedi cynnal eu cyfnod o ymgynghori dros gyfnod y Nadolig, gyda nifer o berchnogion carafannau a thai haf yn bresennol.
Ond dywed y Grid Cenedlaethol eu bod yn hyderus y gallant gyfyngu ar yr effaith fydd yn cael ei weld ar y pentref.
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn hyderus fod digon o gyfle i glywed barn pobl, gan gynnwys tri chyfarfod cyhoeddus dros y 12 wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2014
- 4 Medi 2014
- 9 Awst 2012