Trawsblaniad: Cwest i ddwy farwolaeth
- Published
image copyrightIrwin Mitchell
Fe fydd cwest yn dechrau yng Nghaerdydd ddydd Mawrth i achos dau ddyn a gafodd trawsblaniad organau gan yr un unigolyn yn dilyn honiadau bod organau'r rhoddwr yn dioddef o glefyd parasitig.
Derbyniodd Robert Stuart 67 oed, a Darren Hughes, 42 oed, aren gan yr un unigolyn.
Cafodd y ddwy driniaeth eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ym mis Rhagfyr 2013.
Hwn oedd y trydydd trawsblaniad i Mr Hughes ei derbyn, a'r cyntaf i Mr Stuart.
Mae honiad bod yr arennau gafodd y ddau yn 2013 wedi eu heintio a mwydyn parasitig.
Gobaith teuluoedd yw bod cwestiynau'n cael eu hateb yn sgil y cwest.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Tachwedd 2014
- Published
- 14 Tachwedd 2014