Dementia: Pryder academydd am rygbi
- Cyhoeddwyd

Fe allai nifer o ergydion i'r pen wrth chwarae rygbi gynyddu'r broses o heneiddio'r ymennydd ac mae potensial o ddementia cynnar, yn ôl un academydd o Gymru.
Fe wnaeth yr Athro Damian Bailey waith ymchwil ar 280 o chwaraewyr a chyn chwaraewyr.
Dywed y bwrdd sy'n rheoli rygbi rhyngwladol - yr IRB - eu bod eisoes yn cydnabod y gallai bod cysylltiad rhwng derbyn ergydion parhaol i'r pen a phroblemau hirdymor.
Dyw gwaith yr Athro Bailey heb gael ei gyhoeddi eto, ond mae'n bosib mai dyma'r astudiaeth gyntaf sy'n awgrymu fod y cysylltiad yn un fwy clir.
Dywed yr IRB na fyddant yn gwneud sylw tan fod y gwaith ymchwil wedi ei gyhoeddi.
Ym mis Medi, fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ganllawiau ar gyfergydion (concussion).
Maen nhw wedi dweud eu bod yn awyddus i drefnu cyfarfod gyda'r Athro Bailey.
Chwaraeodd Martyn Williams 100 gêm i Gymru:
"Yr eiliad rydych yn dechrau meddwl am bwy mor beryglus yw'r gêm, a pha mor gorfforol yw e, dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau iddi," meddai.
"Dim ond nawr fy mod wedi ymddeol, rwyf wedi edrych yn ôl a meddwl, 'be o ti'n wneud am 15-16 o flynyddoedd?'
"Mae yna ffyrdd haws o wneud bywoliaeth, ond mae'n rhaid i chi fod o feddylfryd arbennig, yn arbennig felly er mwyn cyrraedd y lefel uchaf. Rwy'n meddwl ei fod yn rhan annatod o'r gêm.
"Dwi ddim yn meddwl eich bod yn mynd ar y cae yn 100% holliach os dwi'n onest, mewn gêm broffesiynol. Mae'r gêm mor gorfforol a chaled nawr."
Dywedodd yr Athro Bailey, sy'n Athro ffisioleg a biocemeg ym Mhrifysgol De Cymru, wrth raglen Week In Week Out BBC Cymru: "Rydym wedi cynnal ymchwiliad gwyddonol trwyadl ac mae yna ddau brif ganlyniad.
"Yn gyntaf, o ran chwaraewyr ifanc, mae cyfergydion cyson yn gallu cael effaith negyddol ar y ffordd mae'r ymennydd yn gweithio - yn enwedig o ran y ffordd mae llif gwaed yn cael ei reoli, ac mae hynny yn bwysig o ran cadw'r ymennydd yn iach.
"Yn ail, pan rydych yn ystyried hyn yng nghyd-destun chwaraewr wedi ymddeol, sydd wedi ymddeol o'r gêm ryngwladol...mae cyfergydion niferus yn gallu amharu ar y ffordd mae chwaraewyr yn cofio, neu'n ffurfio syniadau."
"Felly mae'n cynyddu'r broses o heneiddio'r ymennydd, ac o bosib yn gwneud dementia yn fwy posib."
Week In Week Out: The Hidden Headache, Dydd Mawrth , 18 Tachwedd ar BBC One Wales 22:35
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2014
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2013