Cosbi 914 o fodurwyr am ddefnyddio ffonau symudol
- Cyhoeddwyd

Mae 914 o fodurwyr wedi cael eu dal yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru o fewn pythefnos i'r heddlu lansio ymgyrch i geisio atal eu defnydd gan yrwyr.
Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi arwain yr ymgyrch, ynghyd â'u cydweithwyr o'r lluoedd eraill a swyddogion Diogelwch Ffyrdd ar hyd Cymru.
Dywedodd y Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Darren Wareing ei bod hi'n "siom enfawr fod nifer o bobl wedi dewis anwybyddu eu rhybuddion".
"Hawdd iawn yw tynnu sylw hyd yn oed y gyrrwr mwyaf profiadol a gall diffyg canolbwyntio arwain at ganlyniadau difrifol."
Cosbau ymhob rhanbarth:
- Heddlu Dyfed Powys - 447
- Heddlu De Cymru - 342
- Heddlu Gogledd Cymru - 55
- Heddlu Gwent - 72
Ychwanegodd Mr Wareing: "Gyda chynnydd yn y defnydd o ffonau clyfar, rydym hefyd yn gweld sylw gyrwyr yn cael ei dynnu oddi ar eu gyrru wrth iddynt ddefnyddio aps neu'r rhyngrwyd, neu ddarllen e-byst ar eu ffonau.
"Mae angen i yrwyr sylweddoli bod gwneud y pethau hyn yr un mor beryglus ac yn cario'r un gosb."
Er bod y ffigyrau'n uchel, mae yn lleihad ar ffigyrau ymgyrch 2013, pan gafodd 1,095 o bobl gosb am ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru.
Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Er ei fod yn siomedig fod cymaint o fodurwyr wedi cael eu dal yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol mae hefyd yn dangos bwriad holl bartneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru i daclo'r broblem a pharhau i gydweithio er mwyn cyfleu'r neges bod angen rhoi'r ffôn i ffwrdd cyn gyrru."
Straeon perthnasol
- 6 Hydref 2014