Mwy o gleifion yn croesi o Loegr i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Offer meddygolFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae mwy o gleifion o Loegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru nag i'r gwrthwyneb, yn ôl un o benaethiaid y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, wrth Aelodau Seneddol bod 20,000 o gleifion o Loegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru - o'i gymharu â'r 15,000 o Gymru sydd wedi mynd i Loegr.

Ychwanegodd nad oes arian ychwanegol yn dod i Gymru er gwaethaf y gofyn i drin 5,000 yn fwy o gleifion.

Daw gwrandawiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn sgil ffrae wleidyddol dros gyflwr y GIG yng Nghymru.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford wedi cyhuddo Ceidwadwyr San Steffan o ledaenu "celwyddau" ynglŷn â gofal iechyd yng Nghymru.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Iechyd y DU, Jeremy Hunt, mae cleifion yng Nghymru'n derbyn "gwasanaeth israddol".